Awdurdodaeth (cyfraith)

Yr awdurdod neu rym cyfansoddiadol[1] sydd gan endid cyfreithiol i weithredu cyfiawnder yw awdurdodaeth. Gall y term gyfeirio yn gysyniadol at rym y farnwriaeth neu adran benodol ohonni (er enghraifft, awdurdodaeth apeliadau neu awdurdodaeth ddiannod); at y diriogaeth sydd dan awdurdod llys neu drefn gyfreithiol benodol (er enghraifft, Cymru a Lloegr ydy awdurdodaeth cyfraith Lloegr); neu at y diriogaeth sydd yn ddarostyngedig i'r ddeddfwriaeth a gaiff ei phasio gan senedd, cynulliad neu ddeddfwrfa arall.[2] Mae'r drydedd ystyr ynglwm wrth gysyniad sofraniaeth.

  1. (Saesneg) Jurisdiction. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Mawrth 2023.
  2. Elizabeth A. Martin (gol.), A Dictionary of Law (Rhydychen: Oxford University Press, 2003), tt. 272–3.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search